A
A/fà5a
Ystyr: e/ef/fe
Enghreifftia a nodiada:
- 'ōdd-a isha i fi fynd i’r shop newydd' - roedd e eisiau i fi fynd i'r siop newydd5a
Acolch1a,5a
Ystyr: agolch
Enghreifftia a nodiada:
- 'Ma fa’n dod yma bob wthnos i glasgu acolch i’r moch' - mae e'n dod yma bob wythnos i gasglu agolch i'r moch1a
- 'Cera i dywlu’r pilwns ’yn i’r gasgan acolch'1a
- 'doti’r acolch yn y cafan' - put the swill in the trough5a
Acor1a,5a
Ystyr: agor
Enghreifftia a nodiada:
- '’Odd y tŷ ar acor led y pen ’eb neb yno'1a
- 'Mae’r drws ar acor' - mae'r drws ar agor1a
- 'weti acor y drws' - wedi agor y drws5a
-ach1,5a, -iach1
Ystyr: 'diminutive; plural or collective; usually added to plural forms'5a
Enghreifftia a nodiada:
- 'oldd[odiad] enw[ol] un[igol] a ll[uosog] ac iddo fel arfer ystyr ddifr[ïol], e.e. corrach, dynionach, oeliach'1
- 'bechgynach' - 'lads (in this case the plural diminutive suffix -ach suggests disapproval, criticism)'5a
- 'crachach' - 'petty gentry; said of a higher social class which is pompous, snooty, high-and-mighty, stuck-up'5a
- 'merchetach' - 'young women'5a
- 'pethach' - things, little things '(péthau + ach) > pethéuach > péthach'5a
Acha1a,5a
Ystyr: ar, ar uchaf
Enghreifftia a nodiada:
- 'Dod ’i gyfeiriad a lawr acha llifyr'1a
- '’Ôn’ nw’n ishta acha gwal isial'1a
- '[p]ring acha arian'1a
- 'wilia acha tiwn lleddf'1a
- '’Odd yr ’ewl yn mynd acha tro'1a
- 'Mae a wedi bod ar sgowt acha dwywaith yr wthnos ’yn' (dwyrain Morg.)1a
- 'hefyd yn yr ymad[rodd] ‘acha sgiw’ ‘ar dro’, ‘a’r coffin yn mynd acha sgiw’'1a
- 'hefyd yn y De-ddwyrain yn yr un ystyr clywir yr ymad[roddion] ‘acha slant’ ac ‘acha wew(c)’'1
- 'acha pen t[ŷ]' - on the top of a house5a
- 'acha pob tywydd' - in all weathers5a
- 'Used only with indefinite nouns. With definite nouns ar is used. acha Dydd ’Dolig on a Christmas Day, on some Christmas Day'5a
- 'ORIGIN: acha < archa < ar ucha < ar uchaf'5a
Achos1a,3
Ystyr: achos, oherwydd, rheswm, pwrpas
Enghreifftia a nodiada:
- 'Ma ginto ddicon o achos i ddicio'1a
- 'Ar lafar, ‘in religious sense’ [...] ‘achos’ ‘enwad crefyddol’, ‘Raid aberthu i gynnal yr achos’'1a
- 'hefyd yn yr ymad[rodd] ‘yr achos gora’ ‘crefydd’'1a
- '’I fuo’ ’i’n dyst yn achos ’wnna yn y llys'1a
- 'Fe ddethpwd â’i achos a gerbron y cwrdd eclws, a fe gæs ’i dorri mæs'1a
- 'Fe fu’n raid iddo atal yr ysgol a mynd i witho achos idd ’i dæd farw’n sytan'1a
- '’Etho’ i ddim siag ’no wedi’r cwbwl achos fi glŵas fod Wil wedi mynd ’nôl'1a
- 'Achos beth man’ nw wedi matal o’r cwrdd?'1a
Achwn1a,5a, achwyn1, achwin5a
Ystyr: achwyn, cwyno oherwydd afiechyd1a
Enghreifftia a nodiada:
- 'Paid achwyn cymaint' (dwyrain Morgannwg)1
- 'Un fudur i achwn yw Meri ni'1a
- 'achwn ar ’i frest'1a
- 'achwn am fod ’i anal mor fyr'1a
Ag3, a (o flaen llafariad)5a
Ystyr: ac
Enghreifftia a nodiada:
- 'Anghof ag anneall' (Iolo Morgannwg)3
- 'nawr a yn y man' - nawr ac yn y man, now and then5a
Anglodd1a/b,3, angladd1, angla'5a, (ll. anglodda1a, angladda5a)
Ystyr: angladd
Enghreifftia a nodiada:
- 'angladd i wŷr a gweision' - 'funeral for men only' (Morgannwg)1
- '’Odd anglodda mawr, ’slawar dydd'1a
- 'Fe gæs anglodd barchus iawn'1a
- Ar lafar ym Morgannwg a Brycheinniog1b
- 'cäl angladd lluosog' - to have a well-attended funeral5a
Afnatw1,3, ofnatw4
Ystyr: ofnadwy
Alowo1,5a, 'lŵo1,5a, 'lowo5a
Ystyr: caniatáu
Enghreifftia a nodiada:
Altro1, 5a, oltro1,5a
Ystyr: newid, addasu dillad
Enghreifftia a nodiada:
- 'Mae wedi altro gimint ’nawr'1
- 'altro dillad' (dwyrain Morgannwg)1
- 'Ma’r twydd wedi oltro er gwath' (dwyrain Morgannwg)1
- 'Ma’r lle wedi oltro' (de-ddwyrain Morgannwg)1
Ama1a,5a
Ystyr: amau
Enghreifftia a nodiada:
- 'Paid ti o ddychra ama’r gwirionadd ’nawr'1a
- '’Wi’n ama os odych chi’n iawn'1a
Anap1a,3
Ystyr: anhap
Enghreifftia a nodiada:
- 'Fe gæs Ifan anap tost yn y gwaith'1a
- 'Ma anapon yn dicwdd i’r gora'1a
Anraith3
Ystyr: anrhaith
Enghreifftia a nodiada:
- defnyddwyd gan Iolo Morgannwg3
Apad1,3
Ystyr: ateb
Enghreifftia a nodiada:
- ar lafar ym Mangor, dim gwybodath am Wenwisag1
Apal1a,3,5a
Ystyr: abl, galluog1a
Enghreifftia a nodiada:
- 'Ma fa’n aplach na ti idd ’i nuthur a'1a
Apar1a,5a
Ystyr: aber
Enghreifftia a nodiada:
- 'abar' 'Mewn enwau lleoedd yn unig ... Pan ddigwydd y gair ar ei ben ei hun, ei ffurf yw apar [...] (eb.)'1a
- 'In place-names beginning with ‘aber’ in Gwentian the initial vowel, which is unaccented, drops away (a very common phenomenon in spoken Welsh throughout Wales) [...] the vowel in the pretonic syllable drops away to give a consonant cluster br- before a vowel'5a
- 'Aberaman > Beraman > Braman' ac 'Aberogwr / Aberocwr > Berocwr > Brocwr'5a
- 'Before a consonant, aber > ber > byr', 'Ber-där, Byr-där for Aber-där'5a
- '’Bercannid'/'Abercannid' - Abercannaid5a
Arath1a,5a (ll. arithia1a, areitha5a, aritha5a)
Ystyr: araith
Enghreifftia a nodiada:
- 'Yn wir fe ryws arith ddæ y noswith ’ynny'1a
- 'Ma fa wedi coeddi’i arithia erbyn ’yn'1a
- 'traddoti arath' - give a speech, traddodi araith5a
- 'arath nêt' - a fine speech5a
Arath1a,3 (ll. erith1a,3)
Ystyr: arall
Enghreifftia a nodiada:
Árgiwo5a
Ystyr: ymresymu5a
Ariôd1,3, ariōd5a, riōd5a
Ystyr: erioed
Enghreifftia a nodiada:
- '’Weles i ariôd shwd beth’ a ddywedir' (y de)1
- 'y peth ryfedda welas-i ariōd'5a
Arian1a,3,5a
Ystyr: arian
Enghreifftia a nodiada:
- 'arian mawr' - a lot of money ('big money')5a
Arlwdd1a,5a, arlwydd3, (ll. arlwyddon5a)
Ystyr: arglwydd, penteulu1a
Enghreifftia a nodiada:
- 'Ma fa’n stiwart i’r Arlwdd—Arlwdd y Biwt'1a
- 'Nw ddethon’ fel arlwyddi i roi ’nicyn cyfran ifi o arian y clotion'1a
- 'Pwy yw arlwdd y tŷ ’ma?'1a
- Waunarlwydd ger Abertawe1a, ac 'Waunarlwdd' - gwaun yr arglwydd, the lord’s moorland5a
- 'the g is always pronounced in the Scriptural Arglwydd, LORD'3
- 'Graig yr Arlwdd (= craig yr arglwydd) (1841: Craig yr Arlwydd) Bedwas, Sir Fynwy ST 16503 93250 (= the lord’s rock)'5a
Atryd5a
Ystyr: tynnu eich dillad oddi amdanoch5a, dadwisgo5a, ymddihatryd5a
Athrawiath1a,3
Ystyr: athrawiaeth, doctrine3
Enghreifftia a nodiada:
- '’Ôn’ nw’n roi pwys ar athrawiath yn y cwrdd, ’slawar dydd'1a
Awyr1a, âr3
Ystyr: awyr, wybren, ffurfafen
Enghreifftia a nodiada:
- '’Ôs dim puryn o awyr yn dod i mywn'1a
- 'Ma’r awyr yn goch ’eno'1a
- '’Wi’n gweld ticyn o awyr læs'1a
Ystyr:
Enghreifftia a nodiada: